Mae cwmni HMV wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau 60 o siopau ar hyd a lled gwledydd Prydain ar ôl Nadolig gwael.
Dydyn nhw ddim wedi dweud a fydd rhai o’r rheiny yng Nghymru, lle mae ganddyn nhw wyth o siopau i gyd.
Mae’r cwmni’n dweud y byddan nhw’n cau siopau lle mae sawl un mewn ardaloedd cyfagos – dyw hynny ddim yn berthnasol i’r siopau yng Nghymru ond mae Golwg360 yn dal i aros am gadarnhad o hynny gan HMV.
Gwerthiant yn is
Roedd gwerthiant y cwmni, sy’n arbenigo mewn cryno ddisgiau, DVDs a gemau cyfrifiadurol, i lawr 13.5% yn ystod mis Rhagfyr 2010, o’i gymharu â Rhagfyr 2009.
Er mwyn delio â’r sefyllfa, mae HMV, sydd yn rhan o’r un cwmni â siopau llyfrau Waterstones, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau’r siopau dros y 12 mis nesaf, yn ogystal â cheisio arbed £10 miliwn ychwanegol.
Yn ogystal ag ymdopi â diffyg gwerthiant dros yr Ŵyl, mae’r cwmni wedi cyfaddef eu bod nhw’n cael trafferth i gwrdd ag amodau eu benthyciad banc.
Colli gwerth
Disgynnodd gwerth cyfrannau Grŵp HMV bron i 25% yn ystod yr awr gyntaf o fasnachu ar y farchnad stoc y bore yma, yn dilyn cyhoeddiad y cwmni ynglŷn â’u gwerthiant siomedig dros y Nadolig a’r trafferthion ariannol hirdymor sy’n wynebu’r cwmni.
Yn ôl HMV, roedd y cwmni wedi dioddef yn fawr oherwydd y tywydd oer ac mae gwerthiant crynoddisgiau a dvds yn dod dan bwysau gan archfarchnadoedd a’r We.
Er bod rhai yn awgrymu mai unig opsiwn y cwmni yn y pen draw fydd gwerthu, roedd prif-weithredwr HMV, Simon Fox, yn mynnu y byddan nhw’n trawsnewid y busnes.
Tymor mwy llwyddiannus i eraill
Roedd gwerthiant dwy siop arall dros y Nadolig yn fwy addawol, gyda siop Next yn dweud bod eu colledion ar ddechrau Rhagfyr wedi altro’n sylweddol wrth i’r tywydd wella ac ers i’r sêls ddechrau rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.
Bu Rhagfyr yn fis hynod lwyddiannus i siopau John Lewis hefyd,, gyda chynnydd o 7.6% yn eu gwerthiant yn ystod pum wythnos ola’r flwyddyn. Mae hynny’n cynnwys eu hail siop fwya’, yng Nghaerdydd.
Llun: Siop HMV yn Oxford Street Llundain