Mae un o bob saith o Brydeinwyr yn teimlo “dan bwysau eithriadol” ar ddechrau 2011, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae bron i un o bob pump menyw ac un ym mhob 10 o ddynion yn teimlo fod y straen sydd arnyn nhw y tu hwnt i bob rheolaeth, yn ôl y 2,000 o bobl a holwyd yn yr arolwg.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio fod straeon o’r fath yn cynyddu pwysau gwaed a’r peryg o gael strôc.

Gall deiet gwael a diffyg ymarfer corff hefyd gyfrannu at y risg o ddioddef strôc ac mae 150,000 o bobol yng ngwledydd Prydain yn cael strôc bob blwyddyn.

Strôc yw’r trydydd achos mwyaf cyffredin o farwolaeth yng Nghymru a Lloegr, ar ôl clefyd y galon a chanser, gan ladd 67,000 o bobl bob blwyddyn.

Mwy o ymarfer corff

Yn ôl yr ymchwil gan y Gymdeithas Strôc a chwmni Siemens, roedd bron un o bob pump yn dweud nad ydyn nhw’n “gwneud dim ymarfer corff o gwbl”.

Roedd nifer tebyg o bobol yn dweud eu bod nhw’n gwneud cyn lleied â 30 munud o ymarfer corff bob wythnos.

Roedd mwy na chwarter y bobol ganol oed a holwyd (o 45 i 54) yn dweud nad oedden nhw’n gwneud unrhyw ymarfer corff, er gwaetha’r ffaith mai’r oed yna sy’n dangos y duedd fwyaf i fod dan straen.

Ar y cyfan, roedd 40% o’r bobol a holwyd yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o’r cysylltiad rhwng ymarfer corff a lleihau’r risg o strôc.

Yn ôl James Beeby, pennaeth codi arian y Gymdeithas Strôc, “mae’n holl bwysig fod pobol yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd ac yn addasu eu deiet i leihau’r risg o gael strôc”.

Llun: Croestoriad o ymennydd wedi strôc (Marvin 101 CCA 3.0)