Mae sianel deledu’n dweud bod mwy na 500 o fenywod ym Mhrydain wedi beichiogi er iddyn nhw ddefnyddio dull atal cenhedlu poblogaidd oedd yn cael ei argymell gan feddygon.
Yn ôl ymchwil gan Channel 4 News, roedd 1,600 o fenywod wedi cwyno am ddyfais o’r enw Implanon ac roedd 584 o’r rheiny’n dweud eu bod wedi beichiogi yn groes i’w dymuniad.
Roedd Implanon yn diwb bychan a oedd wedi’i osod ym mraich miloedd o fenywod dros gyfnod o flynyddoedd, ar gost o £90 yr un. Yr honiad oedd ei fod yn atal merched rhag beichiogi am dair blynedd drwy ollwng hormonau i’r gwaed o’r tiwb bach yn y fraich.
Cadarnhaodd yr Asiantaeth Reoleiddio cynnyrch Meddyginiaethol a Gofal Iechyd eu bod nhw wedi derbyn 1,607 o adroddiadau ynglŷn ag adwaith annisgwyl i’r Implanon, a’r rheiny’n ymwneud â 2,888 o achosion lle nad oedd yr Implanon wedi cael yr effaith iawn.
Roedd eraill wedi cwyno am greithio, a phroblemau wrth dynnu’r teclyn 40mm o hyd.
Iawndal
Yn ôl gwaith ymchwil Channel 4, roedd 14 o’r menywod eisoes wedi dod ag achosion yn erbyn eu hymddiriedolaethau iechyd lleol, ac roedd y Gwasanaeth Iechyd wedi talu mwy na £200,000 mewn iawndal i fenywod a feichiogodd neu a gafodd eu hanafu gan y teclyn.
Mae Implanon wedi cael ei ddisodli erbyn hyn ddyfais newydd o’r enw Nexplanon.
Yn ôl June Raine, cyfarwyddwraig yr Asiantaeth Reoleiddio cynnyrch Meddyginiaethol a Gofal Iechyd, “Fe fuon ni’n cydweithio’n agos gyda’r cwmni er mwyn datblygu fersiwn newydd. Maen nhw’n gwbl ymwybodol o’n gofidiau.”
Llun: O wefan y cynnyrch