Mae penaethiaid cynghorau Cymru wedi rhybuddio heddiw eu bod nhw’n disgwyl bil “sylweddol” am atgyweirio ffyrdd Cymru ar ôl y tywydd gaeafol diweddar.

Dywedodd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wrth Golwg 360 y gallai trwsio’r holl dyllau yn y ffyrdd gostio “miliynau o bunnoedd”.

Mae awdurdodau lleol ar draws y wlad yn y broses o asesu’r difrod i’w ffyrdd ar ôl i’r rhew ddadmer.

Ond dywedodd Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r gymdeithas na fydd hi’n “bosib asesu’r difrod llawn a dechrau ar y gwaith, hyd nes y bydd y tywydd yn gwella”.

Croesawodd y £7m sydd wedi ei rannu ymysg y cynghorau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith ond dywedodd y bydd angen mwy o arian nag hynny i gwbwlhau’r gwaith.

“Mae’r tywydd garw diweddar wedi achosi difrod sylweddol i ffyrdd Cymru,” meddai.

“Mae disgwyl bil o filiynau o bunnoedd am y gwaith i atgyweirio’r ffyrdd.”

Ychwanegodd bod y gost ychwanegol yn “sialens i Gymru” ac yn “ychwanegu at y pwysau ariannol enfawr sydd eisoes ar gynghorau Cymru”.

Galw am ragor o arian

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad i roi’r blaenoriaeth i atal tyllau mewn ffyrdd yn y lle cyntaf yn hytrach na’u trwsio ar ôl iddynt ymddangos.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Jonathan Morgan, y byddai gwario rhagor o arian ar gynnal a cadw ffyrdd yn golygu nad oedd angen eu trwsio dro ar ôl tro.

“Mae delio â tyllau mewn ffyrdd yn frwydr gyson i’n llywodraethau lleol. Mae’r broblem yn gwaethygu bod tro mae yna gyfnod o dywydd oer,” meddai.

“Mae’n hen bryd i Lywodraeth y Cynulliad ailfeddwl a rhoi’r gorau i atebion tymor byr.

“Mae arian yn dynn, felly mae’n rhaid i ni wario’r arian ar gynnal ein priffyrdd yn y lle cyntaf.”

Tyllau

Cyhoeddodd Sefydliad y Modurwyr (IAM) heddiw bod gyrrwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o ddioddef yn sgîl tyllau yn y ffordd na gyrwyr yn Lloegr.

Bydd toriadau yng nghyllidebau cynghorau dros y blynyddoedd nesaf yn arwain at ragor o ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael, medden nhw.

“Mae yna ragor o ffyrdd gwledig yng Nghymru sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdodau lleol,” meddai llefarydd ar ran y sefydliad.