Mae rheolwr Llanelli, Andy Legg, yn credu mai dyma’r amser gorau i wynebu Bangor, ar ôl i dîm Nev Powell golli am y tro cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Fe gollodd Bangor 4-2 yn erbyn Prestatyn ddydd Sul, pythefnos ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Airbus UK. Cyn hynny roedden nhw wedi ennill 13 gêm yn olynol.

Er gwaetha’r cyfle da i fanteisio ar siom Bangor, mae Andy Legg yn cyfaddef y gallai colli yn erbyn Prestatyn ysgogi’r tîm o Ffordd Farrar.

“Fe fyddan nhw’n awyddus i daro yn ôl a sicrhau eu bod nhw’n dechrau ennill eto yn syth,” meddai Legg wrth bapur y South Wales Evening Post.

“Ond ar y llaw arall, maen nhw wedi derbyn ergyd seicolegol ac os ydan ni’n llwyddo i sgorio gôl gynnar yn eu herbyn fe allai hynny effeithio arnyn nhw.”

Maeddodd Llanelli Caerfyrddin 3-1 ddydd Sadwrn diwethaf yn eu gêm gyntaf ers 9 Tachwedd.

Gyda chymaint o fwlch wedi bod rhwng gemau mae Andy Legg yn gobeithio y bydd ffitrwydd Llanelli yn ddigon da i gystadlu yn erbyn y tîm sydd ar frig y tabl.

“Mae’r bois wedi chwarae un gêm mewn 63 diwrnod, felly rwy’n gobeithio y bydd yr hogiau yn ddigon heini,” meddai.