Dros y dyddiau diwetha’, mae rhai wedi bod yn beirniadu S4C am ddangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth plant Cyw. Mae Llinos Dafydd, un o newyddiadurwyr Golwg, yn mynd yn erbyn y llif…

Mae yna fore-godwr yn tŷ ni – wel dwy i ddweud y gwir, ond mae’r un ifanca’ yn rhy fach i leisio’i barn bach 4 mis oed. Mae’r un fach benfelen arall, sydd bron yn bedair mlwydd oed yn ddigon tebol o ddweud ei dweud, ac mae hi’n hoffi dechrau ei diwrnod gyda’i ffrind, Cyw.

Am 7.45 y bore pan dw innau’n trio hel popeth ynghŷd ar gyfer y diwrnod, rhaid dweud fy mod i’n fwy na pharod i estyn y peiriant pwdryn i fy merch hynaf er mwyn iddi gael ei ffics dyddiol o gartŵns Cymraeg. Sam Tân ac Igam Ogam ydy’r ffefrynnau, gyda llaw. A dw innau’n cael llonydd i glatsho bant gyda sortio dillad, gwneud y pecynnau bwyd, ac ambell waith gaf i eiliad i gribo fy ngwallt hyd yn oed, cyn gorfod gadael y tŷ am 8 er mwyn mynd a’r plant at y warchodwraig, yna anelu trwyn y car tuag at Llambed i wneud diwrnod o waith.

Ond daeth cri bore ddoe – “Fi mo’yn Cyw!” – roedd hi’n ddiwedd y byd. Pan edrychais i ar y teledu, roedd hysbyseb bwyd cath ar y sgrin, ac yn amlwg doedd hynny ddim yn plesio fy merch fach, a oedd yn disgwyl helyntion a helbulon trigolion Pontypandy.

Dw i wedi clywed sawl un yn achwyn bod S4C wedi dechrau dangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth dyddiol Cyw – ac mae’n siŵr y bydden i’n un o’r rheini pe bawn i’n gweld hysbysebion teganau a siocledi.

Ond mae’r holl hysbysebion dw i wedi eu gweld wedi eu hanelu at oedolion – boed yn ryw siampŵ neu’i gilydd, yn fwyd ci neu’n bapur tŷ bach. A beth sy’n bod gyda hynny?

Os ydy e’n ffordd i S4C i wneud arian, gan sicrhau dyfodol i’r sianel, wel fel mam, dw i’n ddigon hapus bod y rhain yn ymddangos – cyn belled eu bod nhw ddim yn dangos rhai sydd wedi’u hanelu’n uniongyrchol at blant bach.

Mae hysbysebion yn amlwg yn dod ag arian i mewn, felly gosodaf bluen yn het S4C – ond yn amlwg, nid pluen oddi ar adenydd Cyw, achos dw i ddim eisie ei gweld hi’n glanio ar y ford fwyd fel ein cinio dydd Sul.