Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn gwadu bod Caerdydd wedi derbyn unrhyw gynigion am eu hymosodwr Jay Bothroyd.
Mae yna adroddiadau y gallai Bothroyd adael yr Adar Glas ym mis Ionawr, a bod gan sawl clwb o Uwch Gynghrair Lloegr, gan gynnwys Fulham, Birmingham a Blackburn, ddiddordeb ynddo.
Ond mae Dave Jones wedi dweud nad yw’n ymwybodol bod unrhyw glwb yn bwriadu cynnig unrhyw arian amdano.
“Does yr un clwb wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â Jay – does neb wedi cysylltu ynglŷn ag unrhyw chwaraewr yn y brif garfan,” meddai’r rheolwr.
“Dyw’r sïon ddim yn fy mhoeni ac mae Jay wedi dweud ei fod yn hapus yma.”
Ond mae cytundeb presennol yr ymosodwr yn dod i ben dros yr haf ac fe fydd yn gallu gadael y clwb am ddim ar ddiwedd y tymor.
Fe allai Caerdydd ffafrio gwerthu Bothroyd yn ystod mis Ionawr er mwyn sicrhau taliad amdano ac osgoi sefyllfa debyg i un Joe Ledley, a adawodd am ddim.
Serch hynny fe fyddai colli’r ymosodwr yng nghanol y tymor yn ergyd mawr i obeithion Caerdydd o ennill dyrchafiad i’w Uwch Gynghrair.
Mae Caerdydd eisoes wedi arwyddo’r ymosodwr Jon Parkin o Preston ac mae yna adroddiadau eu bod nhw hefyd yn targedu ymosodwr Everton, James Vaughan.
Mae Jay Bothroyd yn awyddus i chwarae ar y lefel uchaf ar ôl ennill ei gap cyntaf dros Loegr y llynedd.