Mae S4C wedi atgoffa cerddorion Cymru bod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cân i Gymru 2011 yn prysur agosáu.
Dydd Gwener, 7 Ionawr, yw’r dyddiad cau i’r rheini sydd am fentro i gystadlu.
Bydd yr enillydd yn cael lle yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn ogystal â gwobr ariannol o £7,500.
Bydd yr wyth cân sy’n cyrraedd rhestr fer y rheithgor o arbenigwyr yn perfformio’n fyw ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar S4C ar 6 Mawrth 2011.
Owen Powell yw Cadeirydd y Rheithgor ac yn ei gynorthwyo i ddarganfod yr wyth olaf fydd Gwenno Saunders, cantores The Pipettes; prif leisydd y Sibrydion, Meilir Gwynedd; Cleif Harpwood o fand Edward H.Dafis; a’r gantores gwerin, Siân James.
Mae S4C eisiau ceisiadau gan gyfansoddwyr ar ffurf CD, casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru: s4c.co.uk/canigymru. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.
Am fwy o fanylion am sut i gystadlu, cysylltwch ag Avanti ar 01443 688530 neu canigymru2010@avantimedia.tv