Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad i roi’r blaenoriaeth i atal tyllau mewn ffyrdd yn y lle cyntaf yn hytrach na’u trwsio ar ôl iddynt ymddangos.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Jonathan Morgan, y byddai gwario rhagor o arian ar gynnal a cadw ffyrdd yn golygu nad oedd angen eu trwsio dro ar ôl tro.
“Mae delio â tyllau mewn ffyrdd yn frwydr gyson i’nllywodraethau lleol. Mae’r broblem yn gwaethygu bod tro mae yna gyfnod o dywydd oer,” meddai.
“Mae’n hen bryd i Lywodraeth y Cynulliad ailfeddwl a rhoi’r gorau i atebion tymor byr.
“Mae arian yn dynn, felly mae’n rhaid i ni wario’r arian ar gynnal ein priffyrdd yn y lle cyntaf.”
Tyllau
Cyhoeddodd Sefydliad y Modurwyr (IAM) heddiw bod gyrrwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o ddioddef yn sgîl tyllau yn y ffordd na gyrwyr yn Lloegr.
Bydd toriadau yng nghyllidebau cynghorau dros y blynyddoedd nesaf yn arwain at ragor o ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael, medden nhw.
“Mae yna ragor o ffyrdd gwledig yng Nghymru sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdodau lleol,” meddai llefarydd ar ran y sefydliad.
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai £7m ychwanegol yn cael ei rannu ymysg cynghorau Cymru er mwyn trwsio tyllau yn y ffyrdd a thalu am raeanu.
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol heddiw bod yr arian o gymorth i gynghorau “ar adeg pan maen nhw eisoes yn wynebu pwysau ariannol mawr”.