Mae capten llong yn Llynges yr Unol Daleithiau wedi ei atal o’i swydd ar ôl iddo greu fideos ‘doniol’ a’u dangos i’r criw.

Roedd fideos y Capten Owen Honors yn cynnwys sylwadau dirmygus am hoywon ac ensyniadau rhywiol.

Mae bellach wedi ei drosglwyddo i swydd weinyddol.

Dywedodd y Llyngesydd John C. Harvey eu bod nhw’n parhau i ymchwilio i’r fideos gafodd eu creu rhwng 2006 a 2007.

Maen nhw’n bwriadu holi swyddogion eraill ar long yr USS Enterprise i weld beth oedden nhw’n ei wybod am yr achos.

Daeth y fideos i sylw’r cyhoedd wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau gan bapur newydd yn Norfolk, Virginia.