Mae hyfforddwr newydd Cymru, Gary Speed, wedi cadarnhau na fydd Craig Bellamy ar gael i chwarae yn ei gêm gyntaf wrth y llyw fis nesaf.

Fe fydd Cymru’n wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn yng Nghwpan y Cenhedloedd ar 8 Chwefror.

Ond bydd y gêm ryngwladol yn cael ei chwarae dau ddiwrnod ar ôl y gêm ddarbi rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Mae’n rhaid i Bellamy ddewis yn ofalus pa gemau y mae o’n gallu eu chwarae oherwydd problemau gyda’i bengliniau.

“R’yn ni’n gwybod mai dim ond o bryd i’w gilydd fydd Craig ar gael. Ond mae o’n gwybod beth sydd orau iddo ac fe fydd yn barod i wynebu Lloegr,” meddai Speed wrth Sky Sports.

Giggs, Savage a Davies

Ychwanegodd hyfforddwr Cymru ei fod wedi cysylltu gyda Ryan Giggs, Simon Davies a Robbie Savage ynglŷn â’r dychwelyd i’r tîm rhyngwladol.

“Rydw i wedi siarad gyda Simon ac mae’n mynd i ystyried y peth. Mae’n benderfyniad personol ond rwy’n gobeithio y bydd yn dod yn ôl,” meddai Speed.

Dywedodd Gary Speed nad oedd yn siŵr a fyddai Ryan Giggs yn dychwelyd i chwarae i Gymru.

Ond mae’r hyfforddwr yn gobeithio y bydd chwaraewr Man Utd yn gwneud ryw fath o gyfraniad i’r tîm rhyngwladol ar yr ochr hyfforddi.

Dywedodd Gary Speed bod Robbie Savage wedi cysylltu gydag ef er mwyn dweud ei fod ar gael i Gymru.

“Fe decstiodd Robbie i ddweud ei fod ar gael ar gyfer gêm Lloegr oes oedd angen ychwaneg o brofiad yng nghanol y cae,” meddai Gary Speed.

“Mae carfan Cymru yn un ifanc ac efallai y byddai’n werth cynnwys Robbie.”