Mae ymchwilwyr yn Sweden yn ymchwilio i beth achosodd marwolaeth tua 50 o adar mewn stryd yn ninas Falkoping.

Dyma’r trydydd achos o’i fath o fewn dyddiau. Bu farw miloedd o adar du yn Arkansas dros y flwyddyn newydd, a dyddiau yn ddiweddarach daethpwyd o hyd i gyrff 450 o adar yn Louisiana.

Roedd tân gwyllt wedi eu rhyddhau ger y stryd ynghynt, meddai’r milfeddyg Robert ter Horst.

Fe allai’r tywydd oer, trafferth wrth ddod o hyd i fwyd, neu sioc o ganlyniad i’r tân gwyllt fod yn gyfrifol, meddai.

Mae pump o’r jac-y-dos yn cael eu profi.