Mae Aelod Cynulliad wedi dweud y dylid gwahardd dangos hysbysebion yn ystod rhaglenni plant S4C.
Daw hyn wedi i’r sianel ddechrau dangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth plant 3 – 6 oed Cyw.
Dywedodd Helen Mary Jones wrth Golwg360 heddiw fod hysbysebion sy’n targedu plant bach yn “broblem” ac yn gallu achosi poen meddwl i rieni – yn “arbennig mewn teuluoedd tlawd”.
Ddoe galwodd sefydliad Plant yng Nghymru ar S4C i ail ystyried dangos yr hysbysebion, gan ddweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” â’r penderfyniad.
Dywedodd S4C eu bod nhw wedi penderfynu cynnwys hysbysebion er mwyn dod ag arian ychwanegol i mewn i’r sianel. Mae’r sianel yn wynebu toriad 25% yn ei chyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.
“Mae Plaid Cymru yn credu ers cryn amser y dylai gwahardd hysbysebu yn ystod rhaglenni teledu plant,” meddai Helen Mary Jones, AC Plaid Cymru, wrth Golwg360 heddiw.
“Ni all plant, yn enwedig y rhai ifanc iawn sy’n gwylio Cyw, werthuso hysbysebion yn yr un modd ag oedolion.”
Dywedodd fod hysbysebion o’r fath yn annog plant i erfyn yn ddi-ben draw ar eu rhieni – gan beri poen meddwl i deuluoedd, yn enwedig “teuluoedd tlawd”.
“Rwy’n ymwybodol fod S4C yn wynebu sialensiau ariannol,” meddai. “Ond mae hysbysebu sydd yn targedu plant, a phlant bach yn enwedig, yn broblem.”
Datganiad S4C
“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae S4C wedi penderfynu bod yn rhaid chwilio am ffyrdd newydd o greu incwm,” meddai llefarydd ar ran y sianel.
“Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau parhad Cyw a rhaglenni a gwasanaethau eraill S4C i’r dyfodol. Mae’r hysbysebion o fewn Cyw yn cydymffurfio â rheolau hysbysebu Ofcom.”