Mae’r awdurdodau yn Awstralia wedi cynnal cyfarfod brys i gynllunio ar gyfer y 200,000 o bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd yng ngogledd ddwyrain y wlad.

Mae dinas Rockhampton yn Queensland yn paratoi ar gyfer y lefelau uchaf eto – er bod adroddiadau heddiw’n awgrymu na fydd hynny cynddrwg â’r disgwyl

Mae’r cyfryngau lleol yn dweud bod tua 400 o gartrefi wedi cael eu heffeithio yn Rockhampton ac fe allai afon Fitzroy barhau i orlifo’i glannau am wythnos arall.

Mae pobol yn cael eu rhybuddio i gadw allan o’r dŵr, yn rhannol oherwydd bod nadroedd gwenwynig wedi eu cario i’r ddinas gan y llifogydd.

Mae’r dŵr wedi cael effaith ar economi Queensland gyda chnydau wedi’u difetha a phyllau glo wedi gorfod cau.

Fe ddywedodd gweinidog adnoddau Awstralia, Stephen Robertson, bod y wlad yn ennill tua A$100m y dydd yn allforio glo i weddill y byd ond mae’r llifogydd yn golygu bod 40 o byllau yn Queensland wedi methu â chynhyrchu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Llun: Llun o’r gofod gan NASA yn dangos y llifogydd

Mae Prif Weinidog Awstralia, y Gymraes Julia Gillard, wedi dweud bod disgwyl i gostau’r llifogydd fod yn gannoedd o filiynau o ddoleri.

Mae o leia’ 10 person wedi cael eu lladd ers i’r llifogydd ddechrau cyn y Nadolig – amryw’n cael eu dal yn eu ceir wrth geisio gyrru trwy’r dŵr.