Mae lluniau camerâu cylch cyfyng sy’n dangos symudiadau olaf y pensaer tirwedd Joanna Yeates wedi codi amheuon ei bod hi’n cael ei dilyn.
Mae papur y Daily Mirror wedi cyhoeddi’r lluniau sy’n ei dangos yn cerdded adref ar 17 Rhagfyr ar ôl bod yn siopa mewn Tesco cyfagos. Mae’r lluniau hefyd yn dangos dau berson yn ei dilyn eiliadau’n ddiweddarach.
Roedd yr heddlu eisoes wedi awgrymu y gallai mwy nag un person fod yn gyfrifol am farwolaeth y wraig 25 oed, a gafwyd yn farw ar gyrion Bryste fwy nag wythnos yn ddiweddarach, fore dydd Nadolig.
Mae yna adroddiadau bod corff Joanna Yeates heb gôt nac esgidiau a bod y rheiny yn ei fflat ynghanol y ddinas.
Ddoe fe lansiodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf apel ar y wefan gymdeithasol Facebook yn gofyn am wybodaeth.
Arbenigwyr fforensig
Wrth i’r ymchwiliadau barhau, mae’r ditectifs sy’n ymchwili i’r llofruddiaeth yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod pryd yn union na ble y cafodd y wraig 25 oed ei lladd.
Roedd arbenigwyr fforensig yn fflat Joanna Yeates ddoe yn defnyddio’r technegau diweddaraf i chwilio am olion bysedd.
Roedd heddlu hefyd yn fflat Chris Jefferies, landlord Joanna Yeates – roedd wedi cael ei arestio a’i holi am ei llofruddiaeth, cyn ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae’r heddlu wedi rhybuddio merched ym Mryste i beidio â cherdded adref ar eu pennau eu hunain.
Llun: Yr apel ar Facebook