Fe fydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn ar drefn lwfansau’r Aelodau Seneddol ar ôl rhes o gwynion gan yr ASau eu hunain.

Yn ôl Cadeirydd y corff sy’n arolygu’r taliadau, IPSA, mae’n iawn bod y bobol sy’n talu’r biliau yn cael cyfle i ddweud beth sy’n gyfiawn.

“R’yn ni’n clywed llawer gan ASau am eu barn nhw … ond r’yn ni hefyd eisiau clywed gan y rhai sy’n rhoi’r arian,” meddai Syr Ian Kennedy.

Fe addawodd hefyd y byddai’n gwrando ar gwynion ASau, yn arbennig ynglŷn â threfniadau teuluol a rhai o’r cyllidebau sydd wedi eu gosod.

Cwyno

Mae ASau wedi cwyno nad ydyn nhw’n gallu hawlio cost dod â’u teuluoedd i Lundain ac mae rhai, fel Ann Clwyd, AS Cwm Cynon, yn dweud bod y trefniadau’n rhy fiwrocrataidd ac yn gwneud eu bywydau’n boen.

Mae Syr Ian wedi amddiffyn y corff gan ddweud ei fod yn atal y sgandalau a arweiniodd at ei sefydlu yn y lle cynta’.

Fe fydd gan y cyhoedd chwech wythnos i ymateb i’r ymgynghoriad ar IPSA a fydd yn dathlu’i ben-blwydd cynta’ ym mis Ebrill.