Mae disgwyl i Brif Weithredwr Dŵr Gogledd Iwerddon ymddiswyddo yn dilyn yr argyfwng gyda chyflenwadau dros y Nadolig.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni neithiwr nad oedd Laurence MacKenzie wedi gadael ei swydd £250,000 ond mae disgwyl i’r cyhoeddiad ddod heddiw.
Roedd degau ar filoedd o gartrefi a busnesau heb ddŵr ar ôl i’r tywydd gaeafol achosi i bibellau rwygo.
Ond fe fethodd Dŵr Gogledd Iwerddon ymdopi gyda’r sefyllfa ac maen nhw wedi cael eu cyhuddo o fethu â helpu teuluoedd yn ddigon effeithiol.
Ymddiswyddo
Fe fydd bwrdd Dŵr Gogledd Iwerddon yn cyfarfod heddiw a’r disgwyl yw y gallai Laurence MacKenzie gynnig ei ymddiswyddiad yn ystod y cyfarfod.
Mae’r Prif Weithredwr i fod i roi adroddiad llawn o’r argyfwng i bwyllgor archwilio fory – mae yn ei swydd ers llai na dwy flynedd.
Mae aelod o Bwyllgor Datblygu Rhanbarthol Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi dweud y dylai’r Prif Weithredwr aros yn ei swydd i wneud adroddiad llawn cyn ymddiswyddo.
Fel arall, meddai Conall McDevitt, fe fyddai Laurence MacKenzie yn troi cefn ar ei gyfrifoldebau.
Llun gan de Benitez – CCA 3.0