Mae disgwyl y bydd y Bwrdd sy’n rheoli Cyngor Sir Gaerfyrddin yn penderfynu newid y trefniadau diogelwch ar un o’r darnau perycla’ o ffordd yng Nghymru.
Fe fyddan nhw’n ystyried rhwystro’r rhan fwya’ o draffig rhag gallu croesi darn o ffordd ddeuol yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham, lle mae tair damwain farwol wedi bod yn y pum mlynedd diwetha’.
Yn ôl prif swyddog trafnidiaeth y Cyngor, fe fydd rhagor o farwolaethau’n digwydd os na fydd y cyngor a Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu i atal ceir rhag troi i’r dde ar draws y lôn arall – achos y rhan fwya’ o’r damweiniau difrifol yno.
“Os na fydd mesurau diogelwch yn cael eu cymryd i rwystro’r symudiadau peryglus hynny, mae’n anorfod y bydd rhagor o ddamweiniau marwol a difrifol,” meddai Trevor Sage yn ei adroddiad i’r Bwrdd.
Trafod ac ymgynghori
Mae’r Cyngor a’r Llywodraeth wedi bod yn trafod newidiadau ers dwy flynedd a’r bwriad ac roedd y sir wedi bod yn ymgynghori ynglŷn â’r newidiadau a fyddai’n golygu bod rhaid i rai gyrwyr deithio ychydig filltiroedd yn rhagor.
Fe fyddai’r mesurau newydd yn golygu atal 95% o’r symudiadau ar draws y lonydd, gan gynnwys ceir sy’n troi i’r dde am bentre’ Cwmgwili wrth deithio o gyfeiriad Caerdydd.
Roedd mwy na 30 o wrthwynebiadau wedi’u gwneud, yn benna’ gan drigolion a busnesau lleol, gan gynnwys undeb ffermwyr, NFU Cymru.
Yn hydref 2009, roedd teulu un o’r dynion a gafodd ei ladd ar y ffordd wedi cyflwyno deiseb gydag 8,500 o enwau.
Llun: Neuadd y Sir, Caerfyrddin (Rhys Huw – Trwydded GNU)