Dinas Caerdydd 2 Leeds United 1

Roedd rheolwr Caerdydd wrth ei fodd gyda pherfformiad ei dîm wrth iddyn nhw guro Leeds i fynd yn ôl i’r ail safle yn y Bencampwriaeth.

Fe gawson nhw gôl gynnar a gôl hwyr i gipio’r pwyntiau yn erbyn y tîm a oedd un safle o’u blaenau nhw ar ddechrau’r dydd.

Dim ond y drydedd fuddugoliaeth oedd hon i Gaerdydd ers iddyn nhw roi cweir o 4-0 i Leeds yn yr hydref ac roedd Dave Jones yn falch o dawelu’r beirniaid.

Dal ati

Roedd ei dîm wedi dal ati a gweithio’n galed, meddai, gan ddangos mwy o grebwyll nag mewn gemau diweddar eraill.

“Fe roeson ni gosfa i Leeds yn yr hydref ac fe ddechreuon nhw ar rediad gwych o gemau a wnaethon ni ddim,” meddai.

“Nid y wasg sy’n rhoi pwysau arnon ni; ryden ni’n rhoi pwysau arnon ni ein hunain achos ryden ni’n disgwyl chwarae pêl-droed da ac ennill gemau ond dydi hi ddim wastad yn digwydd felly.”

Ei unig siom, meddai Dave Jones, oedd methiant y tîm i gael mwy o goliau yn yr hanner cynta’ ar ôl iddyn nhw ddechrau’n dda gyda gôl gan y capten, Craig Bellamy.

Y gêm

Michael Chopra a gafodd y gôl dyngedfennol 11 munud o’r diwedd ar ôl i Leeds ddod yn gyfartal ac ar ôl i’w gôl-geidwad, Kasper Schmeichel, wneud nifer o arbediadau da.

Roedd Dave Jones yn falch o Chopra hefyd, meddai – roedd y blaenwr wedi gweithio’n galed trwy gyfnod anodd.

Llun: Craig Bellamy – sgoriwr y gynta’