Difaterwch yw’r bygythiad mwya’ i bleidlais ‘Ie’ yn refferendwm y Cynulliad, meddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru.
Er na fydd ei blaid yn gwneud safiad swyddogol ar y pwnc, fe ddywedodd Nick Bourne y byddai’n ymgyrchu’n frwd o blaid pwerau cliriach i Gymru – arwydd o newid mawr yn y blaid ers y refferendwm gwreiddiol yn 1997.
Bryd hynny roedd y Ceidwadwyr yn erbyn datganoli ond, neithiwr, roedd ei harweinydd Cymreig yn un o’r siaradwyr wrth i’r ymgyrch ‘Ie’ gael ei lansio yng Nghaerdydd ar gyfer y bleidlais ar 3 Mawrth.
Gweithio a phleidleisio
Fe addawodd y byddai cefnogwyr y Ceidwadwyr yn gweithio tros y newid ac yn mynd i bleidleisio o blaid y newid.
Dyw hi ddim yn glir eto faint o Geidwadwyr fydd yn ymgyrchu yn erbyn – er ei fod wedi ymddiswyddo o’r ymgyrch ‘Na’ oherwydd ei swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymreig, AS Mynwy, David Davies, yw un o wrthwynebwyr amlyca’r newid.
Fe fyddai pleidlais o blaid yn y refferendwm yn golygu bod y Cynulliad yn gallu gwneud deddfau ar faterion sydd wedi eu datganoli, heb orfod gofyn am ganiatâd San Steffan.
Sylwadau Nick Bourne
“Rhaid i ni wneud yn siŵr bod y rhai sy’n credu y bydd ein Cynulliad Cenedlaethol yn fwy effeithiol gyda’r grymoedd hyn yn dod allan i bleidleisio ‘Ie’ ar 3 Mawrth,” meddai Nick Bourne.
“Rhaid i ni gofleidio datganoli yn yr amseroedd da a’r amseroedd drwg. Fe ddylai’r llwyddiannau a’r methiannau fod yn gyfrifoldeb i ni.
“Gyda datganoli grym mae modd gwneud newidiadau gwirioneddol a thymor hir i fywydau pob dydd y bobol.”