Mae’r BBCwedi amddiffyn cynnwys stori ddiweddaraf opera sebon EastEnders ar ôl derbyn dros 3,400 o gwynion.
Dros yr wythnos diwethaf gwelwyd mam oedd wedi colli ei baban newydd anedig yn ei gyfnewid am faban rywun arall, sydd bellach yn meddwl bod ei babi hi wedi marw.
Dyma’r mwyaf o gwynion mae’r opera sebon wedi ei dderbyn ers mis Ebrill 2009, pan gwynodd 7,000 o bobol yn dilyn episod oedd yn ymwneud â damwain car.
“Rydym ni’n deall ei fod yn stori anodd ond rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod gwylwyr yn ymwybodol o’r cynnwys o flaen llaw,” meddai’r cynhyrchydd Bryan Kirkwood.
Dywedodd bod yr opera sebon wedi cydweithio gyda’r Sefydliad Marwolaeth Sydyn Babanod wrth greu’r episodau.
Mae’n debyg eu bod nhw wedi penderfynu addasu rywfaint ar y cynnwys ar ôl rhoi cip i rai gwylwyr ymlaen llaw.