Mae Heddlu De Cymru yn cymryd rhan mewn prosiect peilot saith mis o hyd â’r nod o adnabod pobol sy’n dioddef yn sgil ymddygiad gwrth cymdeithasol, cyhoeddwyd heddiw.
Mae angen cynllun newydd er mwyn amddiffyn dioddefwyr sydd ddim wedi denu sylw’r heddlu o’r blaen, meddai’r Swyddfa Gartref.
Daw’r cam yn dilyn marwolaeth Fiona Pilkington laddodd ei hun a’i merch anabl ar ôl blynyddoedd o gamdriniaeth wrth gymdeithasol.
Bydd yr wyth heddlu sy’n cymryd rhan yn newid y modd y maen nhw’n ymateb i alwadau, yn cyflwyno system newydd er mwyn cofnodi cwynion, a diwygio eu systemau cyfrifiadurol.
“Dyw hi ddim yn dderbyniol bod y rheini sydd wir mewn angen yn cael eu hanwybyddu,” meddai’r gweinidog atal trosedd James Brokenshire.
“Mae’r dechnoleg yn bodoli er mwyn caniatáu i asiantaethau gyflwyno modd gwell o fynd i’r afael â chwynion o’r fath a modd symlach o rannu gwybodaeth.”
Bydd heddluoedd De Cymru, Avon a Gwlad yr Haf, Swydd Gaergrawnt, Swydd Gaerlŷr, Llundain, De Cymru, Sussex a Gorllewin Mersia yn cymryd rhan yn y peilot tan fis Gorffennaf.