Mae’r gantores o Gymru, Charlotte Church, wedi honni nad oes gan y Frenhines “unrhyw syniad beth sy’n mynd ymlaen”.

Bydd sylwadau dadleuol y gantores 24 oed yn ymddangos mewn cyfweliad yng nghylchgrawn mis Chwefror Esquire, fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

“Rydw i wedi cwrdd â hi tua saith gwaith ond dyw hi byth yn fy nghofio i. Wrth fynd yn agos ati rydych chi’n sylweddoli ei bod hi’n hen ddynes heb unrhyw syniad beth sy’n mynd ymlaen o’i chwmpas.

“Rydw i’n teimlo’n flin drosti. Mae’n siwr nad ydi hi eisiau cael ei gorfodi i fynd i bob sioe frenhinol ddiflas a gwylio dawnswyr hanner noeth a digrifwyr erchyll.”