Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl dod o hyd i gorff dyn 58 oed ar ffordd rhwng Pentre Uchaf a Llithfaen ar Ben Llŷn.
Daethpwyd o hyd i’r corff am 9pm ddydd Sul, 2 Ionawr. Cafodd ambiwlans ei alw ond roedd y dyn lleol, Dewi Wyn Jones, eisoes wedi marw.
Dywedodd y Prif Archwilydd Nigel Harrison eu bod nhw wedi derbyn galwad gan aelod o’r cyhoedd.
“Does dim esboniad ynglŷn â’r farwolaeth ar hyn o bryd ond mae’r ymholiadau yn parhau,” meddai.
“Serch hynny does yna ddim amgylchiadau amheus. Fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal yfory.”
Dylai unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 6071001.