Mae sefydliad plant cenedlaethol wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” bod S4C wedi dechrau dangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth plant poblogaidd Cyw.

Dywedodd S4C eu bod nhw wedi penderfynu cynnwys hysbysebion er mwyn dod ag arian ychwanegol i mewn i’r sianel.

Fis Hydref datgelwyd y bydd y sianel yn wynebu toriad 25% yn ei chyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.

“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae S4C wedi penderfynu bod yn rhaid chwilio am ffyrdd newydd o greu incwm,” meddai llefarydd ar ran y sianel.

“Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau parhad Cyw a rhaglenni a gwasanaethau eraill S4C i’r dyfodol. Mae’r hysbysebion o fewn Cyw yn cydymffurfio â rheolau hysbysebu Ofcom.”

Ond dywedodd Eleri Griffiths o sefydliad Plant yng Nghymru y dylai S4C ail ystyried dangos hysbysebion yn rhan o’r gwasanaeth i blant 3 i 6 oed, sy’n darlledu o 7am i 1.30pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 7 a 9am ddydd Sadwrn a dydd Sul.

“Rydym ni’n siomedig iawn bod S4C wedi penderfynu mynd ar y trywydd yma ac yn eu hannog i ail ystyried y penderfyniad, ” meddai Eleri Griffiths.

“Er eu bod nhw’n cydymffurfio gyda’r rheolau hysbysebu, mae’n fater o egwyddor. Does dim lle i hysbysebion ar raglen sy’n cael ei anelu at blant o dan 7 oed.”

Poblogaidd

Rhybuddiodd Eleri Griffiths y byddai’r penderfyniad yn effeithio ar ba mor boblogaidd yw’r gwasanaeth ymysg rhieni a phlant.

“Rwy’n siŵr y bydd rhieni yn llai parod i adael i’w plant wylio’r rhaglen gan wybod bod yna hysbysebion.

“Rwy’n synnu bod S4C wedi gwneud y penderfyniad yma tra bod plant o Loegr yn gallu gwylio rhaglen CBeebies heb unrhyw hysbysebion o gwbl.

“Mae gan oedolion y gallu i ddehongli hysbyseb. Ond sut all plentyn 3 oed ddeall y gwahaniaeth rhwng rhaglen a hysbyseb? Mae hyn yn gam yn ôl.”