Mae’r heddlu wedi rhyddhau darn o ffilm camera cylch cyfyng o’r ymosodiad ar gar Tywysog Cymru a Duges Cernyw fis diwethaf.

Mae uwch-swyddogion yn gobeithio y bydd y delweddau o gymorth i bobol adnabod y rheini oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ddigwyddodd yn Stryd Regent Llundain.

Ymosododd protestwyr oedd yn ymgyrchu yn erbyn ffioedd dysgu ar y Rolls-Royce Phantom VI arfog ar 9 Rhagfyr.

Mae’r darn ffilm yn dangos y confoi Brenhinol yn arafu wrth i bobol ei amgylchynu ar y stryd. Gellir gweld dwsin o bobol yn amgylchynu’r cerbyd brenhinol ac ymosod arno.

Cafodd y Dduges Camilla ei phrocio â ffon drwy ffenestr agored ac fe gafodd paent gwyn ei daflu dros y cerbyd.

Gorchmynnodd Comisiynydd Heddlu’r Met, Syr Paul Stephenson, adolygiad mewnol, sydd bellach wedi ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May.

Mae 180 o bobol, y rhan fwyaf rhwng 17 a 25 oed, eisoes wedi eu harestio mewn cysylltiad â’r brotest fis diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ffilm yn aneglur ond eu bod nhw’n credu y bydd pobol yn adnabod y protestwyr.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 020 8358 0100 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.