Katherine Jenkins
Mae un o gwmnïau cynhyrchu cerddoriaeth fwyaf y byd wedi lansio ymgais i ddod o hyd i seren nesaf Cymru.
Mae cystadleuaeth Voice For Wales, gan Decca, rhan o Universal, a’r cwmni teledu Boomerang, yn galw ar bobol i yrru record o’u lleisiau eu hunain i’w gwefan.
“Ydych chi’n caru canu? Ydych chi’n edmygu cantorion megis Katherine Jenkins, Bryn Terfel, Aled Jones a Rhydian? Rydym ni eisiau eich clywed chi!” meddai’r neges.
Yn ddiweddarach fe fyddwn nhw’n cynnal clyweliadau cyn dewis eu seren. Fe fydd yr ‘enillydd’ yn cael cytundeb recordio a hefyd cymorth wrth ddatblygu gyfra.
“Yn fy mhrofiad i rydym ni’n tueddu i ddod o hyd i leisiau gwych yng Nghymru, felly rydym ni wedi penderfynu rhoi cyfle i gymaint o gantorion talentog a phosib i gael eu clywed,” meddai cyfarwyddwr marchnata Decca, Mark Wilkinson.
“Rydym ni’n chwilio am lais a thalent arbennig i’w feithrin a’i osod ar lwyfan rhyngwladol. Mae gyrfa o’r fath yn golygu mwy na chanu yn unig.
“Y gobaith yw dod o hyd i gantor o Gymru allai wneud argraff fawr ar y byd. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i rywun.”
Bydd y clyweliadau yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon ar 23 Chwefror, Aberystwyth ar 22 Chwefror, a Chaerdydd ar 21 Chwefror.