Mae dyn wedi cael gwybod y gallai wynebu dirwy o hyd at £1,000 os yw’n codi posteri yn dweud bod ei gath ar goll.

Cododd Mike Harding bosteri A4 fis diwethaf yn galw am gymorth y cyhoedd er mwyn dod o hyd i’w gath annwyl, Wookie.

Ond galwyd yr hyfforddwr gyrru 44 oed o Bedford gan swyddog amgylcheddol ar 22 Rhagfyr, a rhybuddiodd hwnnw y byddai’n cael ei erlyn pe na bai’n tynnu’r posteri i lawr.

Ar ôl cael gwybod y gallai wynebu dirwy o £1,000 rhuthrodd drwy’r strydoedd yn rhwygo posteri i lawr cyn casglu bob un am 3am ar Noswyl Nadolig.

“Rydw i’n ddyn sy’n parchu’r gyfraith ond yn cael fy mygwth â dirwy £1,000 am edrych ar ôl fy nghath,” meddai wrth bapur newydd y Daily Mail.

“Roeddwn i wedi meddwl y byddai gan y cyngor rywfaint o gydymdeimlad.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bedford bod eu tîm gorfodaeth amgylcheddol wedi dod o hyd i ragor nag 20 o bosteri Mike Harding.

“Roedd y posteri wedi eu hoelio i wyth coeden,” meddai llefarydd. “Yn ogystal â gwneud difrod i goed, mae codi posteri ymhobman yn erbyn y gyfraith.

“Cysylltodd swyddog â Mr Harding a dweud na fyddan ni’n mynd a’r mater ymhellach pe bai o’n tynnu’r posteri i lawr o fewn 24 awr.”

Mae Wookie, ddiflannodd ddiwedd mis Tachwedd, yn dal ar goll.