Mae hogyn 10 oed wedi ei gyhuddo o saethu ei fam yn farw yn Ohio.

Daethpwyd o hyd i Deborah McVay, 46, yn farw â chlwyf ergyd gwn i’w phen ddydd Sul.

Galwyd yr heddlu i’r tŷ ar ôl i’r cymdogion eu galw i ddweud bod y mab, Joseph, wedi mynd i’w tŷ a dweud ei fod wedi saethu ei fam.

Dywedodd un arall o’i meibion, Josh, 21 oed, bod ei fam yn ddynes “cariadus iawn” oedd yn gwirfoddoli i helpu pobol gydag anableddau dysgu.

Dywedodd yr heddlu fod gan Deborah McVay hefyd ferch 15 oed oedd wedi mynd i aros â pherthnasau. Dyw hi ddim yn glir a welodd hi’r saethu.

Mae Joseph McVay wedi ei gadw yn y carchar plant ar ôl ymddangos o flaen llys i bleidio’n ddieuog i ladd ei fam.