Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones yn gobeithio’n daer am fuddugoliaeth yn erbyn Leeds Utd heno er mwyn ail-danio tymor Caerdydd.

Ar ôl dechrau da dim ond dwy o’u deg gêm ddiweddaraf mae’r Adar Glas wedi eu hennill, gan syrthio o’r ail i’r pumed safle yn y Bencampwriaeth.

Mae rhai cefnogwyr eisoes yn galw am ben Dave Jones ond â buddugoliaeth heno fe fyddai Caerdydd yn ôl yn yr ail safle.

Ond mae rheolwr yr Adar Glas yn credu bod gan ei garfan y gallu i daro ‘nôl yn dilyn eu rhediad siomedig.

“Byddai sicrhau buddugoliaeth heno yn hwb mawr wrth i ni ddechrau ar ail hanner y tymor,” meddai Dave Jones.

“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd, ond fe fyddwn ni’n iawn os allen ni berfformio fel yn y gêm yn erbyn Coventry ar ŵyl San Steffan.

“Yn anffodus fe aeth pethau lawr allt yn y ddwy gêm ar ôl hynny.”

Mae Dave Jones yn credu nad ydi amddiffyn Caerdydd wedi chwarae yn ddigon da dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae wedi bod yn rhwystredig. Mae’r chwaraewyr yn awyddus i wneud yn dda.”

Fe ddatgelodd Dave Jones hefyd ei fod yn ceisio arwyddo chwaraewyr newydd i roi hwb arall i’r tîm ar gyfer ail hanner y tymor. Dywedodd bod amddiffynnwr newydd yn flaenoriaeth.