Ar ddiwrnod lansio’r ymgyrch Ie dros fwy o bwerau i’r Cynulliad mae’r ymgyrch yn erbyn wedi beirniadu record y Cynulliad ar addysg.
Dywedodd Rachel Banner (dde), llefarydd Gwir Gymru, bod penderfyniad yr ymgyrch ‘Ie’ i lansio yn Atriwm Prifysgol Morgannwg yn “rhyfedd iawn o ystyried bod y Cynulliad wedi tanariannu Addysg Bellach cyhyd”.
Hyd yma, ymgyrch Gwir Gymru yw’r unig wrthwynebiad amlwg i’r ymgyrch Ie. Mae ganddyn nhw gefnogaeth yr AS Ceidwadol, David Davies o Fynwy- er nad yw’n cael ymgyrchu’n gyhoeddus oherwydd ei swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.
Mae gan yr ymgyrch o blaid, sydd dan arweiniad Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, gefnogaeth swyddogol y pedair prif blaid.
‘Mwy o gyfreithiau’
Wrth ymateb i lansiad yr ymgyrch Ie ddiwedd y dydd heddiw, dywedodd Gwir Gymru nad oedd record Llywodraeth y Cynulliad yn “ddigon da” i haeddu mwy o bwerau.
“Ar ôl degawd o ddatganoli, rydym ni’n gwario £527 yn llai bob blwyddyn ar blant yng Nghymru nag yn Lloegr ac mae Addysg Bellach wedi cael rhwng £20m a £60m yn llai bob blwyddyn.
“Mae Gwir Gymru yn galw ar ddosbarth gwleidyddol y Bae i ddweud wrth bobol Cymru sut y bydd creu mwy o gyfreithiau yn cywiro sgandal tanariannu ein plant a’n myfyrwyr.
“Mae gwleidyddion yn dweud bod y refferendwm yn bleidlais o hyder yn y Cynulliad, ond pam ddylai pobol Cymru gael unrhyw hyder mewn llywodraeth sydd gyda’r record gyfredol ar addysg.”
‘Pobol nid pwyllgorau’
Ar drothwy’r lansio, fe ddywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru bod angen system “normal” o lywodraethu Cymru yn hytrach na’r drefn “ddrud a hirwyntog” sy’n bod ar hyn o bryd.
“Mae pobol Cymru’n haeddu’r hawl i benderfynu sut y maen nhw eisiau i’w gwlad gael ei rhedeg,” meddai Ieuan Wyn Jones. “Mae’n bryd i bobol Cymru, yn hytrach na phwyllgorau yn San Steffan, gymryd yr awenau.”
Fe fyddai pleidlais Ie yn y refferendwm ar 3 Mawrth yn golygu bod y Cynulliad yn cael hawl llawn i greu deddfau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, heb orfod gofyn am ganiatâd gan y Senedd yn Llundain bob tro.
Yn ôl Ieuan Wyn Jones, mae’r system yng Nghymru’n unigryw ac mae rheswm da am hynny – mae angen trefn gyflymach, symlach a rhatach, meddai.