Mae dau aelod o staff swyddfa is-gennad Prydain yn Jerwsalem wedi cael eu harestio ar amheuaeth o werthu arfau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod y ddau wedi eu harestio gan awdurdodau Israel.

“Rydym ni’n ymwybodol o’r adroddiadau eu bod nhw wedi cael eu cyhuddo o werthu arfau’n anghyfreithlon,” meddai’r llefarydd.

“Ond rydym ni’n ceisio cael cadarnhad o’r union gyhuddiadau.

“Mae awdurdodau Israel wedi dweud nad oes unrhyw gysylltiad rhwng yr ymchwiliadau i’r staff a’u gwaith yn swyddfa’r is-gennad.”

Mae’r ddau wedi cael eu harestio mewn cysylltiad gyda chynllun i danio roced at Stadiwm Teddy sy’n gartref i dîm pêl-droed Beitar.

Yn ôl adroddiadau fe gafodd y ddau ddyn eu harestio ar ôl darparu arfau ar gyfer dau ddyn arall oedd yn bwriadu cynnal yr ymosodiad.