Mae Aelod Cynulliad wedi galw am esboniad ar ôl i gyngor raeanu croesfan reilffordd drwy gamgymeriad, gan achosi oedi mawr i deithwyr.

Mae Chris Franks, o Blaid Cymru, wedi ysgrifennu at Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ôl iddyn nhw raeanu’r groesfan ger Pont-y-clun yn ystod yr eira fis diwethaf.

Bu’n rhaid cau’r rheilffordd dros dro wrth i’r graean achosi problem â’r traciau, ac roedd oedi mawr i deithwyr rhwng Pont-y-clun a Chaerdydd.

“Roeddwn i’n siomedig wrth glywed adroddiadau bod croesfan reilffordd Stryd Coedcae, Pont-y-clun, wedi ei drin â graean drwy gamgymeriad,” meddai Chris Franks, AC dros ranbarth Canol De Cymru.

“Fe achosodd oedi mawr yn ystod yr oriau brys a drwy’r prynhawn. Roedd nifer o deithwyr o ardal Pontyclun yn hwyr i’r gwaith.

“Rydw i wedi gofyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am wybodaeth am sut y digwyddodd y camgymeriad.”