Cafodd tywyswr o Dde Affrica ei larpio gan grocodeil wrth archwilio afon â dau Americanwr.
Roedd y tri caiacwr yn archwilio afon yng nghalon jyngl yn Affrica pan ymosododd y crocodeil arnynt o’r tu ôl.
Rhwygodd y crocodeil yr arweinydd, Hendri Coetzee, 35 oed, o’i gwch a’i lusgo o dan y dŵr.
Dywedodd y ddau Americanwr a oroesodd – Ben Stooksberry a Chris Korbulic – eu bod nhw wedi rhwyfo drwy ddyfroedd llawer peryclach mewn un darn.
Y peth cyntaf y clywodd Ben Stooksberry oedd Hendri Coetzee yn gweiddi “O! Dduw”. Does dim golwg o’i gorff hyd yn hyn.
Roedd y caiacwyr ar Afon Lukuga yn y Congo ar daith mis o hyd.