Ni fydd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, yn cael chwarae unrhyw ran bellach wrth benderfynu a fydd News Corp yn cael meddiannu cwmni BSkyB.

Daw’r penderfyniad gan y Prif Weinidog, David Cameron, ar ôl i Vince Cable gael ei recordio yn trafod Rupert Murdoch, prif weithredwr News Corp.

Mae’r Prif Weinidog wedi penderfynu symud y cyfrifoldeb dros gystadleuaeth o fewn y byd cyfryngau o’r Adran Busnes a’i roi yn nwylo Adran Diwylliant a Chyfryngau Jeremy Hunt.

Ond mae Vince Cable wedi cadw ei swydd, er iddo gael ei recordio gan un o newyddiadurwyr y Daily Telegraph yn datgan ei fod o “wedi mynd i ryfel” â Rupert Murdoch.

Mewn datganiad gan 10 Stryd Downing dywedodd David Cameron bod sylwadau’r Ysgrifennydd Busnes yn “gwbl annerbyniol ac amhriodol”.

Rhyddhaodd Vince Cable ei ddatganiad ei hun gan ddweud ei fod yn “derbyn yn hollol” penderfyniad y Prif Weinidog.
“Rydw i’n difaru’r sylwadau ac yn ymddiheuro am y chwithdod ydw i wedi ei achosi i’r Llywodraeth,” meddai.

Ymateb

Dywedodd ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, John Denham, nad oedd gan Vince Cable “unrhyw hygrededd”.

“Yr unig reswm y mae yn dal yn ei swydd yw er mwyn cadw’r glymblaid at ei gilydd, ond mae’r penderfyniad ar draul busnesau Prydain.”