Fe gafodd myfyriwr criminoleg ei garcharu am weddill ei oes ar ôl pledio’n euog i lofruddio tair gwraig yn Bradford.
Fe glywodd y llys bod Stephen Griffiths, sy’n 41 oed ddydd Gwener, wedi bwtsera’r tair yn ei fflat yn Bradford ac, yn ôl ei stori ef ei hun, wedi bwyta rhannau o’u cyrff.
Fe ddaethpwyd o hyd i gorff un o’r merched, Suzanne Blamires, 36, yn ddarnau yn Afon Aire yn Shipley gerllaw Bradford ac fe ddaethpwyd o hyd i un darn o un arall, Shelley Armitage, 31, ond does dim sôn am y drydedd, Susan Rushworth, 43, heblaw am ddafnau o waed yn fflat Stephen Griffiths.
Roedd y tair wedi troi at buteindra ar ôl mynd yn gaeth i gyffuriau ac wedi cael eu llofruddio mewn stafell arbennig yn fflat Griffiths a oedd yn galw’i hun yn “Crossbow Cannibal”.
Cael ei ddal
Fe gafodd ei ddal fis Gorffennaf diwetha’ ar ôl i ofalwyr y bloc o fflatiau weld lluniau cylch cyfyng o funudau ola’ Suzanne Blamires.
Yn ôl y Barnwr, doedd dim lle i amau’r stori am fwyta’r cyrff: “Mae canibaleiddio eich ysglyfaeth yn arwydd o’r pŵer a’r rheolaeth fwya’ posib trostyn nhw,” meddai.
Fe ddedfrydodd Stephen Griffiths i garchar am oes gan ddweud na ddylai gael ei ryddhau fyth.
Fe fydd cwestiynau’n codi a ddylai’r llofrudd fod wedi cael ei ddal ynghynt, roedd wedi bod mewn trwbwl am droseddau treisgar ers pan oedd yn ddyn ifanc ac wedi brolio y byddai’n lladd.
Ymateb yr heddlu a’r teuluoedd
Wedi’r ddedfryd, fe ddywedodd pennaeth yr ymchwiliad, y Ditectif Uwch-arolygydd Sukhbir Singh ei fod yn “falch iawn” bod Griffiths wedi ei gael yn euog o “droseddau dychrynllyd”.
“Mae’n ddyn dideimlad sydd eisiau rheoli pobol ac fe gymerodd fantais ar fenywod bregus,” meddai. “Roedd Suzanne, Susan a Shelley’n dod o deuluoedd oedd yn gofalu am eu merched ac yn eu cefnogi.”
Fe apeliodd rhai o berthnasau’r tair ar i ferched ifanc gadw’n glir o gyffuriau a phuteindra.
Dyma neges teulu Shelley Armitage: “Roedd ein merch, Shelley, yn cael ei charu’n fawr a byddwn i gyd yn ei cholli’n arw. Yn anffodus, fe gymerodd y llwybr anghywir pan oed yn 16 oed a mynd yn sglyfaeth i heroin. Bydd ei marwolaeth yn aflonyddu arnon ni am weddill ein hoes.”
Llun: Shelley Armitage