Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai cael eu mygu i farwolaeth a wnaeth dau fachgen bach o Drawsfynydd.

Ar ôl archwiliadau post mortem ar Philip Stevens, 5, a’i frawd Izaac, 2, fe ddywedodd yr heddlu mai dyna oedd achos eu marwolaeth.

Y gred yw mai eu mam, Melanie, oedd yn gyfrifol am eu lladd. Fe gadarnhaodd yr heddlu ei bod hithau wedi ei chael yn fawr yn y tŷ yng nghanol y pentre’ ond nad oedd dim amheus am ei marwolaeth.

Mae hynny’n awgrymu’n gry’ mai wedi gwneud amdani ei hun yr oedd hi – roed yr heddlu wedi dod o hyd i’w chorff yn crogi yn y tŷ.

Holi

Mae ditectifs yn dal i holi yn yr ardal er mwyn deall beth yn union oedd wedi digwydd yn y cyfnod gyn y tair marwolaeth.

Roedd Melanie Stephens yn fam i bump o blant i gyd ond wedi ysgaru. Roedd hi wedi symud i Drawsfynydd tua blwyddyn a hanner yn ôl.

Y gred yw bod y tri phlentyn arall yn byw gyda’u tad.

Mae disgwyl y bydd cwest yn cael ei agor yn ffurfiol fory.

Llun: Trawsfynydd (Llywelyn2000 CCA3.0)