Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ei “siomi” yng nghynlluniau’r llywodraeth ar gyfer llwybr y rheilffordd gyflym ddadleuol, yr HS2, rhwng Llundain a Birmingham.

Fe fydd y cyswllt trên 250 milltir yr awr yn torri ar draws etholaeth Cheryl Gillan, yn Amersham a Chesham, ond fydd dim gorsaf yno.

Mae’r prosiect, sy’n mynd i gostio o £33 biliwn, wedi denu nifer o gwynion gan bobol sy’n dweud nad oes synnwyr economaidd yn y cynllun ar adeg o gyni ariannol.

Mae Cheryl Gillan ei hun wedi dweud ei bod hi’n gwrthwynebu’r prosiect oherwydd y bydd y rheilffordd yn mynd “trwy galon Chesham ac Amersham,” ac mae hi wedi addo ymgyrchu dros ei hetholaeth er mwyn ceisio altro’r cynlluniau hyn.

“Fe fydda i yn astudio pethau yn fanwl, yn enwedig gan nad y llwybr ‘ffafriol’ yw’r llwybr terfynol, eto.”

Mae hi wedi gwahodd ei hetholwyr i gwrdd â hi er mwyn trafod eu pryderon, ac i drefnu ymgyrch effeithlon.

Annog rheilffordd gyflymach i Gymru

Er ei bod hi’n gwrthwynebu un cynllun yn ei hetholaeth ei hun, mae’n cefnogi un arall wrth wisgo het Ysgrifennydd Cymru.

Mae Cymru’n dal i ddisgwyl clywed a fydd y rheilffordd yr holl ffordd o Lundain i dde Cymru yn cael thrydanu – er ei bod hi’n edrych yn annhebygol iawn erbyn hyn yn dilyn sylwadau gan un o uwch-gyfarwyddwyr National Rail, sydd wedi dweud na fydd y gwaith yn mynd ddim pellach na Bryste.

“Rydw i eisoes wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn tanlinellu pwysigrwydd trydanu’r brif reilffordd orllewinol,” meddai Cheryl Gillan, “yn enwedig o ystyried ymroddiad y Llywodraeth i ddatblygu rheilffordd gyflym i’r gogledd o Lundain.”

“Fydda’ i’n parhau i wthio’r achos dros drydanu gyda fy nghydweithwyr yn y Cabinet, a’u hatgoffa nhw fod buddiannau economaidd a bod strwythur trafnidiaeth Cymru mewn perygl o gael ei adael ar ôl os nad yw’r prosiect yn digwydd.”

Llun: Cheryl Gillan (Swyddfa Cymru)