Mae cadeirydd Casnewydd wedi gwadu adroddiadau bod rheolwr y clwb, Dean Holdsworth, yn cael ei ystyried ar gyfer swydd wag gyda’r Bristol Rovers.
Mae Chris Blight wedi wfftio’r sïon ar ôl i nifer o gwmnïau betio osod Holdsworth yn ffefryn i olynu Paul Trollope.
Ond mae Chris Bilght yn disgwyl i reolwr Casnewydd fod wrth y llyw dros gyfnod prysur y Nadolig.
“Mae Dean yn agos iawn i’r chwaraewyr a’r staff cynorthwyol, ac rwy’n siŵr ei fod o’n teimlo fod ganddofwy i wneud yn y swydd. Mae’n mwynhau’r swydd hefyd,” meddai Chris Bilght wrth bapur newydd, sef y South Wales Echo.
“Pan mae clwb tebyg i ni yn cael chwaneg o lwyddiant, mae’r rheolwr yn mynd i gael ei dargedu.
“Ond rwy’n siarad gyda Dean bron i bob dydd ac mae’n hapus gyda’r clwb.
“Fyddwn i ddim yn synnu pe bai’n denu sylw clybiau eraill. Ond mae hynny’n arwydd ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad cywir.”