Mae ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru yn bwriadu cynnig ymestyn hanner cyntaf y tymor hyd ddechrau mis Chwefror.
Cafodd nifer o gemau’r adran eu gohirio dros yr wythnosau diwethaf ac mae pwysau ar y clybiau i chwarae eu holl gemau cyn i’r gynghrair rhannu’n dau ar 15 Ionawr.
Mae Llanelli yn wynebu chwarae deg gêm cyn canol mis nesaf a bydd rhai i Brestatyn yn
chwarae wyth.
Fe fyddai hynny’n rhoi straen enfawr ar garfannau’r clybiau, ac mae rheolwr Llanelli, Andy Legg eisoes wedi galw ar drefnwyr y gynghrair i ymestyn rhan gyntaf y tymor.
Gohirio cyfarfod i drafod y tywydd
Roedd disgwyl i’r clybiau gyfarfod heddiw er mwyn trafod ymestyn y tymor neu beidio – ond bu’n rhaid gohirio oherwydd y tywydd gaeafol.
Ond mae ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru, John Deakin yn bwriadu cysylltu gyda’r aelodau er mwyn cynnig ymestyn yr hanner cyntaf.
“Fe fyddai’n amhosib chwarae cymaint o gemau,” meddai. “Mae’n debygol ein bod ni’n mynd i golli gemau Gŵyl San Steffan hefyd, wrth edrych ar y rhagolygon tywydd.”