Mae daeargryn cryf wedi ysgwyd de-ddwyrain Iran heddiw, gan ddifrodi nifer o adeiladau.
Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf o deledu gwladol Iran does neb wedi eu hanafu gan y daeargryn yn Hosseinabad, oedd yn mesur 6.5 ar y raddfa richter.
Mae’r ardal yn agos i ddinas hanesyddol Bam, ble’r oedd daeargryn o gryfder tebyg yn gyfrifol am ladd 26,000 o bobl yn 2003.
“Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu fod tai mewn sawl pentref wedi eu dymchwel, ond does dim adroddiadau bod neb wedi eu hanafu eto,” meddai Hossein Bagheri, Cyfarwyddwr Uned Genedlaethol Rheoli Argyfyngau Iran.
Mae cysylltiadau ffôn â’r ardal wedi eu torri, ac mae timoedd achub wedi eu hanfon i’r ardal.