Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies wedi dweud fod ei garfan yn llawn hyder wrth iddynt baratoi am ddwy gêm ddarbi dros y Nadolig.
Fe fydd y Scarlets yn wynebu’r Gweilch yn Stadiwm Liberty ar Ŵyl San Steffan cyn croesawu’r Dreigiau i Barc y Scarlets ar Ddydd Calan.
Mae’r Scarlets yn llawn hyder ar ôl curo Treviso ddwywaith yn y Cwpan Heineken i’w rhoi mewn man cryf yn eu grŵp.
Fe fyddai canlyniadau positif yn y gemau yma’n allweddol i obeithion y rhanbarth am weddill y tymor.
“Mae’r hyder yn adeiladu o fewn y garfan ac maen nhw’n chwarae yn dda,” meddai Nigel Davies.
“Maen nhw wedi dangos ymroddiad a phenderfynoldeb y tymor hwn ac maen bleser gwylio eu hymdrechion ar y cae.
“R’yn ni wedi datblygu grŵp cryf o chwaraewyr sy’n fodlon brwydro dros eu crysau ac maen nhw’n cymryd eu cyfleoedd a dangos y potensial sydd o fewn y rhanbarth.”
Mae’r Scarlets yn ail yn nhabl Cynghrair Magners ar hyn o bryd, pedwar pwynt y tu ôl i Munster ar y brig.