Mae gŵr 84 mlwydd oed wedi cael ei garcharu am bedair blynedd yn Awstralia heddiw, ar ôl iddo honni ei fod yn gyd-garcharor rhyfel er mwyn derbyn cannoedd o filoedd o ddoleri o bensiwn.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Marshall Irwin, o Lys Rhanbarthol Brisbane, y byddai Arthur Crane yn cael ei ryddhau ar ôl chwe mis ar yr amod ei fod yn bihafio.

Plediodd Arthur Crane yn euog i gyhuddiadau o dwyllo’r Gymanwlad. Dywedodd ei fod wedi cael ei ddal a’i arteithio gan y Siapan?aid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mewn gwirionedd, doedd e erioed wedi gwasanaethu gyda’r fyddin.

Cyn i’r awdurdodau ddod o hyd i’r twyll y llynedd, roedd Arthur Crane wedi hawlio bron i £440,000 o bensiwn rhyfel a thaliadau anabledd.

Doedd e ddim yn gymwys i dderbyn £297,500 o’r arian, ac fe fydd e nawr yn gorfod talu’r swm yn ôl.