Mae Prif Filfeddyg Cymru wedi galw ar berchnogion anifeiliaid anwes i’w cadw nhw’n gynnes wrth i’r tywydd gaeafol gau ei gethrau ar Gymru.

Dywedodd Dr Christianne Glossop y dylid symud cybiau a chaetsys i mewn i’r tŷ, sied neu garej os yn bosib, ac y dylai perchnogion ddarparu blancedi ar gyfer yr anifeiliaid i’w cadw’n gynnes.

Yn ogystal â hynny fe ddylai perchnogion wneud yn siŵr nad ydi dŵr yfed anifeiliaid yn rhewi yn yr oerfel.

“Mae anifeiliaid sy’n byw mewn cybiau neu gaetsys yn arbennig o agored i niwed, ac mae’n bosib anghofio amdanyn nhw wrth iddi dywyllu mor fuan,” meddai Christianne Glossop.

“Er bod moch cwta a chwningod wedi eu gorchuddio â ffwr fe fyddan nhw’n rhewi yn y tywydd oer os nad ydi eu perchnogion yn eu diogelu nhw.

“Os oes â chi bysgod tu allan, rhowch bêl i arnofio yn y dŵr, ac os yw’r dŵr yn rhewi tynnwch y bêl allan gan adael twll fel bod y pysgod yn cael digon o ocsigen.

“Peidiwch â gadael cŵn a chathod allan yn hir yn y tywydd yma. Os ydyn nhw’n mynd yn wlyb sychwch nhw â thywel.”