Mae Gary Speed eisoes wedi trafod cynnwys Ryan Giggs yn rhan o dîm hyfforddi Cymru, meddai.

Penodwyd Gary Speed yn hyfforddwr newydd Cymru’r wythnos diwethaf ac mae yn y broses o gwblhau ei dîm hyfforddi ar hyn o bryd.

Roedd Ryan Giggs yn un o’r ffefrynnau cynnar i olynu John Toshack ond doedd hynny ddim yn bosib Cymro ganolbwyntio ar chwarae dros Man Utd.

Ond mae yna bosibilrwydd y gallai Ryan Giggs chwarae ryw fath o rôl gynorthwyol gyda’r tîm hyfforddi rhyngwladol.

“Fe fyddai’n wych cael Ryan yn rhan o bethau. Fe siaradais gydag ef yr wythnos diwethaf ond fe fydd rhaid i ni aros i gael gweld,” meddai Gary Speed.

Mae Gary Speed hefyd yn chwilio am hyfforddwr profiadol iawn i’r gynorthwyo o ddydd i ddydd, gyda hyfforddwr tîm dan 21 Cymru, Brian Flynn yn ogystal â hyfforddwr cynorthwyol Speed yn Sheffield Utd, John Carver, yn ffefrynnau.

“Rydw i am ddod mewn a’r bobol orau i mewn er mwyn lles pêl-droed Cymru. Rydw i eisiau hyfforddwr da fydd yn gallu gwneud yr ymarferion o ddydd i ddydd tra fy mod i’n canolbwyntio ar siâp y tîm.

“Fe fyddai hefyd yn braf cael cynorthwyydd gyda phrofiad o’r Uwch Gynghrair neu’r lefel rhyngwladol gan fy mod i eithaf ifanc.”

Fe fydd Gary Speed yn cymryd rheolaeth o’u gêm gyntaf wrth y llyw yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghwpan y Cenhedloedd yn Nulyn ar 8 Chwefror.