Mae capten Abertawe wedi dweud y dylai ei dîm anwybyddu eu safle yn nhabl y bencampwriaeth.

Dywedodd Garry Monk bod angen iddyn nhw roi taw ar unrhyw sôn am ddyrchafiad a chanolbwyntio ar gael y pethau syml yn iawn ar y cae.

Collodd yr Elyrch 1-0 yn erbyn Sheffield Utd dros y penwythnos, sy’n golygu mai un gêm yn unig y maen nhw wedi ei ennill yn y pump diwethaf.

Serch hynny mae Abertawe dau bwynt ar y blaen i ble’r oedden nhw ar yr un adeg y llynedd.

“Roedd hi’n berfformiad siomedig yn erbyn Sheffield Utd. Er ein bod ni wedi rheoli’r gêm yn ystod yr hanner cyntaf, doedden ni heb greu unrhyw beth o bwys,” meddai Garry Monk.

“Mae’n rhaid i ni ddechrau profi ein hunain unwaith eto. Dyw’r perfformiadau diwethaf heb fod yn ddigon da.

“Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i siarad am gipio’r ail neu’r trydydd safle. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y perfformiadau unigol.

“R’yn ni wedi gosod safon uchel i’n hunain ond mae pawb yn siomedig nawr ein bod ni wedi disgyn o dan hynny.

“Does dim problemau o fewn y clwb, ond mae’n rhaid i ni anghofio am bopeth sy’n digwydd o’n hamgylch ni er mwyn sicrhau bod y pethau syml yn cael eu gwneud yn iawn.”