Mae Gavin Henson wedi dweud y gallai chwarae am wyth mlynedd arall wrth iddo ddychwelyd i fyd rygbi wedi hoe 21 mis.
Mae disgwyl i’r Cymro chwarae i’r Saraseniaid yn erbyn Wasps yn Wembley ar Ŵyl San Steffan, ddydd Sul.
Dyw Henson heb chwarae rygbi ers Mawrth 2009, ac ers hynny mae wedi cymryd seibiant o’r gêm er mwyn canolbwyntio ar raglenni teledu 71 Degrees North a Strictly Come Dancing.
Ond dywedodd y chwaraewr amryddawn y bydd yn canolbwyntio’n llwyr ar ei yrfa rygbi erbyn hyn.
Mae’n targedu lle yn sgwad Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.
“Rwy’n teimlo’n dda ac yn edrych ymlaen at chwarae. Rwy’n gobeithio y byddai’r perfformio,” meddai Gavin Henson.
“Dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos ydw i wedi gallu ymarfer gyda’r Saraseniaid oherwydd y dawnsio.”
Nôl yn ei chanol hi
Mae disgwyl i dorf o tua 50,000 fod yn bresennol yn Wembley pan fydd Gavin Henson yn dychwelyd i’r cae.
“Fydda’i nôl yn chwarae rygbi’n barhaol nawr ac rwy’n gobeithio gallu parhau am wyth mlynedd arall,” meddai.
“Rwy’n gobeithio bod nôl ar fy ngorau cyn gynted â phosib er mwyn cael chwarae yn y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd.”
Mae Henson yn credu mai’r canol yw ei safle gorau er ei fod yn disgwyl chwarae yn safle’r maswr â’i glwb newydd.
“Rydw i am gyrraedd y brig unwaith eto. Rydw i’n gweld eisiau hynny yn ogystal â chwarae dros fy ngwlad. Rwy’n hoffi meddwl y galla’i chwarae’n well nag o’r blaen.”