Mae George Osborne wedi ei feirniadu ar ôl galw Aelod Seneddol hoyw o Gymru yn “pantomime dame”.
Yn ystod cwestiynau olaf y Trysorlys cyn y Nadolig cyhuddodd Chris Bryant, AS y Rhondda, y Canghellor o gymryd pleser wrth chwarae rhan “Baron Hardup”.
Ymatebodd George Osborne: “O leiaf nid fi yw’r pantomime dame.”
Mae Aelodau Seneddol Llafur wedi galw ar George Osborne i ymddiheuro am y sylw, a gwaeddodd Chris Bryant ei fod yn “homoffobig”.
Dywedodd Chris Bryant yn ddiweddarach “na fyddai George Osborne wedi dweud hynny os nad oeddwn i’n hoyw”.
“Dw i’n siŵr, pan fydd e’n cyrraedd ei swyddfa, fe fydd e’n anfon nodyn bach yn dweud sori. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau.”