Mae peirianwyr British Gas wedi trwsio 100,000 o foeleri yn ystod yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd undeb GMB bod nifer o weithwyr wedi rhoi’r gorau i’w gwyliau Nadolig er mwyn ymateb i’r holl alwadau ddaeth yn sgil y tywydd iasoer.

Roedd aelodau’r undeb wedi ymateb i 231,000 o alwadau bob dydd ac wedi trwsio 20,000 o foeleri’r diwrnod, medden nhw.

Mae British Gas, sy’n gyfrifol am atgyweirio hanner boeleri y wlad, wedi gorfod galw gweithwyr ychwanegol i mewn er mwyn ymateb i’r galwadau brys, meddai GMB.

“Aelodau GMB yw arwyr go iawn yr argyfwng hwn. Maen nhw wedi bod yn gweithio drwy’r nos er mwyn cadw cartrefi’n gynnes,” meddai Gary Smith.

“Mae peirianwyr nwy GMB wedi bod yn gweithio drwy’r nos er mwyn gwneud yn siŵr bod gan gwsmeriaid wres a dŵr poeth er mwyn gallu ymdopi â’r tywydd oer.”