Fe fydd gweithwyr Trenau Arriva Cymru yn streicio ar 27 Rhagfyr, gan fygwth rhagor o ffwdan i deithwyr ynghanol trafferthion yr eira, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd undeb trafnidiaeth RTM y bydd eu haelodau yn gadael y gwaith am 24 awr ar ôl pleidleisio o blaid gweithredu ddiwydiannol.

“Mae RMT wedi gwrthod cynnig diwerth gan y cwmni a fyddai wedi golygu bod ein haelodau ni ar eu colled yn ariannol,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Bob Crow.

“Fe fyddai ein haelodau ni wedi gorfod goddef amodau gwaith gwael a thoriad cyflog.

“Mae Trenau Arriva Cymru wedi dangos nad oes â nhw ddiddordeb mewn gwobrwyo gwaith caled a theyrngarwch eu staff. Yr unig beth sydd yn eu diddori nhw ydi rhagor o elw er mwyn llenwi pocedi eu cyfranddalwyr.

“Nawr ein bod ni wedi cyhoeddi’r gweithredu diwydiannol mae’r cyfrifoldeb ar Drenau Arriva Cymru i ddod yn ôl atom ni a thrafod modd o wella amodau gwaith gyrwyr.”